Telerau ac Amodau Tudalen Gofrestru Gwasanaethau Fy Nghyngor
Polisi Preifatrwydd:
Fel un sy'n defnyddio app Casnewydd a Phorth y Cwsmer, bydd Cyngor Dinas Casnewydd yn casglu eich data, gan gynnwys e-bost a chyfeiriad ffisegol, os byddwch yn dewis cyflwyno’r rhain. Byddwn yn defnyddio'r rhain i gysylltu â chi gyda’r wybodaeth ddiweddaraf am eich ceisiadau am wasanaeth ac i allu cysylltu â chi os oes angen:
-
Caiff eich data ei storio'n ddiogel lle y gellir ei weld a'i rannu lle bo angen, gan ein staff, cyflenwyr a phartneriaid, gan gynnwys cynghorau tref a chymuned ym mwrdeistref sirol Casnewydd, neu ein contractwyr. Mae hyn yn sicrhau y gellir cyfeirio eich pryderon at y rhan gywir o'r cyngor neu at y darparwr gwasanaeth priodol os yw'n bartner. Drwy gyflwyno eich data personol, rydych yn dangos i ni eich bod yn cytuno i hyn.
-
Yn gyffredinol nid yw trosglwyddo gwybodaeth dros y rhyngrwyd yn gwbl ddiogel, ac felly ni allwn warantu diogelwch eich data yn llwyr. Mae unrhyw ddata yr ydych yn ei drosglwyddo ar eich risg eich hun; fodd bynnag, caiff trafodion taliadau eu hamgryptio bob tro. Mae gennym weithdrefnau a nodweddion diogelwch ar waith i gadw eich data'n ddiogel ar ôl i ni ei dderbyn.
-
Ni fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth ag unrhyw sefydliadau eraill ar gyfer marchnata, ymchwil i'r farchnad na dibenion masnachol. Efallai y byddwn yn anfon eich gwybodaeth bersonol ymlaen os bydd rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i wneud hynny. Mae hyn yn cynnwys cyfnewid gwybodaeth gydag adrannau eraill Cyngor ddibenion cyfreithlon eraill.
-
Os nad ydych yn cytuno â'r datganiad hwn ac nad ydych am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn mwyach, yna gallwch ddadgofrestru drwy fewngofnodi i'ch cyfrif > Fy nghyfrif > Dadgofrestru fy nghyfrif. Gallwch barhau i gyflwyno adroddiadau yn ddienw; fodd bynnag, ni fyddwn yn gallu adrodd yn ôl am unrhyw ddatblygiadau diweddar mewn perthynas â'ch cais.